Skip to content

Monitor Lles Plant a Pobl Ifanc Cymru 2011

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn fodlon i ddatgan cyhoeddiad Monitor Lles Plant a Pobl Ifanc Cymru 2011. Dyma'r ail mewn cyfres o adroddiadau ar les plant a phobl ifanc (oed 0-25) yn Gymru.

Adroddir dangoswyr lles ar lefel Cymry cyfan ac mae'r ail argraffiad yma yn dechrau rhoi mewn i le cyfres o ddata ar les plant a phobl ifanc a gall cael eu defnyddion i ddilyn newidiadau dros amser.

Mewn ychwanegiad i hyn mae'n cynnwys canfyddiadau o'r sail dystiolaeth ehangach a lleisiau plant a phobl ifanc eu hunain.

Trefnir y Monitor ar sail themâu Saith Nod Craidd Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer plant a phobl ifanc, sydd eu hunain yn seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC).

Y themâu yma yw:

  • y blynyddoedd cynnar
  • iechyd
  • addysg
  • cael cyfleoedd chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliant
  • hawliau a iawnderau
  • cartref a chymuned ddiogel
  • sicrhau bod dim plentyn neu berson ifanc o dan anfantais oherwydd tlodi

Nod y monitor yw rhoi gwybodaeth ddibynadwy a chyfoes am les plant yng Nghymru, fel y gall Llywodraeth y Cynulliad fonitro tueddiadau allweddol ac ymateb iddynt; cynnig cyfle i olrhain targedau tlodi plant trawsbynciol Llywodraeth y Cynulliad yng nghyd-destun lles plant; a chodi ymwybyddiaeth o’r materion mae angen ymdrin â hwy er mwyn
sicrhau lles plant a phobl ifanc.

Gafodd tri darn o waith eu comisiynu i gefnogi datblygiad y Monitor yma: adolygiad o'r dystiolaeth, astudiaeth ansoddol a dadansoddiad ychwanegol o'r 'Millennium Cohort Study' (MCS). Ymgymerwyd yr adolygiad tystiolaeth gan brifysgol Caerdydd. Ymgymerwyd yr astudiaeth ansoddol gan Prifysgol Glyndŵr, Prifysgol Caerdydd a 'Red Kite Research and Consultancy'. Ymgymerwyd yr adolygiad ychwanegol o'r MCS gan y 'Centre for Longitudinal Studies, Institute of Education', Prifysgol Llundain.