Skip to content

Gwerthusiad o’r Prosiect Mynediad at Wasanaethau Ariannol trwy Undebau Credyd - Adroddiad y Flwyddyn Gyntaf

Dolenni perthnasol

'Banc' y mae'r gymuned yn berchen arno yw undeb credyd. Yr aelodau sy'n berchen arno ac yn ei reoli ac mae'n cynnig lle hawdd a chyfleus i gynilo a'r cyfle i gael gafael ar fenthyciadau cost isel.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae’r Prosiect yn awr yn ail gam ei gyflwyno, ar ôl cael ei dreialu am gyfnod o flwyddyn o Ebrill 2009.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru werthusiad o’r prosiect yn 2011 ac mae’r adroddiad hwn ar y flwyddyn gyntaf yn cyflwyno canfyddiadau gwerthusiad ffurfiannol  y cam cyntaf.

Nod y gwerthusiad tymor hir, sy’n cael ei gynnal gan Old Bell 3 Ltd, yw asesu effaith ac effeithlonrwydd y prosiect ac adolygu’r graddau y mae wedi cyrraedd ei nodau a’i amcanion.

Mae’r gwerthusiad cam cyntaf yn gwneud pum argymhelliad gan gynnwys bod Llywodraeth Cymru a WEFO yn parhau i ariannu’r Prosiect Mynediad at Wasanaethau Ariannol trwy Undebau Credyd.