Skip to content

Gwerthusiad o Effeithlonrwydd Cronfa Cymunedau Diogelach 2006-2009

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae Cronfa Cymunedau Diogelach Llywodraeth Cynulliad Cymru yn brif ffynhonnell o gyllid sy'n ymrwymedig i wneud gwaith i atal troseddu ymysg ieuenctid Cymru.

Mae 22 o Bartneriaethau Cymunedau Diogelach yng Nghymru a chaiff y gronfa ei gweinyddu gan y Partneriaethau lleol hyn. Yn 2006-2009, dyrannwyd cyfanswm o £13,473,498 i'r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol er mwyn cynorthwyo prosiectau i geisio lleihau troseddu ac achosion o anhrefn ymysg pobl ifanc. Roedd yr ymchwil yn nodi enghreifftiau o arferion da wrth weithio gyda phobl ifanc yn ceisio eu hannog i gefnu ar ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu.