Skip to content

Gyrfaoedd ym maes ymchwil gymdeithasol y llywodraeth

Dolenni perthnasol

Rydym yn cynnig ystod enfawr o gyfleoedd gyrfa ledled Cymru ac yng ngweddill y byd.
Ymchwil Gymdeithasol Y Llywodraeth
Caiff unrhyw swyddi gwag sydd ar gael yn Llywodraeth Cymru ym maes ymchwil gymdeithasol eu hysbysebu ar wefan recriwtio Llywodraeth Cymru.

Disgrifir y sgiliau a'r cymwyseddau y mae eu hangen i fod yn ymchwilydd cymdeithasol i'r llywodraeth yn fframwaith cymwyseddau Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth.

Mae gwefan Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth yn ffynhonnell dda o wybodaeth am waith ymchwilwyr y llywodraeth, y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen a'r swyddi gwag sydd ar gael.

Lleoliadau i fyfyrwyr

Mae Llywodraeth Cymru yn gallu cynnig nifer gyfyngedig o leoliadau gwaith i israddedigion gwyddorau cymdeithasol sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd ym maes ymchwil gymdeithasol y llywodraeth. Mae'r lleoliadau hyn yng Nghaerdydd fel arfer ac yn parhau am 50 wythnos.

Os hoffech ddysgu mwy am y cyfleoedd hyn, anfonwch e-bost i'r blwch post ymchwil.