Skip to content

‘Te gyda Tom’ – cefnogaeth ar gyfer tenantiaid Cynllun Extra Care yn Sir y Fflint

Tom yn mwynhau paned o de gydag un o drigolion oedrannus cartref gofal Llys Eleanor
Tom Parry sy’n gyfrifol am sicrhau bod Cynllun Extra Care Llys Eleanor, a agorwyd yn Shotton yn 2009, yn rhedeg heb unrhyw anawsterau.

Mae Llys Eleanor yn ganolfan gwerth £8.5 miliwn sy’n darparu fflatiau â’r cyfleusterau diweddaraf i bobl hŷn yn Sir y Fflint. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn tai o safon. Darparodd £4.3 miliwn tuag at gyfanswm cost y cynllun ac mae gweddill yr arian yn dod o ffynonellau preifat. Cymdeithas Tai Clwyd Alun sy’n rheoli’r datblygiad.

Wrth egluro sut y mae Cynlluniau Extra Care yn gweithio, dywedodd Tom Parry:

“Mae Llys Eleanor yn cynnig tai i bobl hŷn sydd angen rhywfaint o ofal, ond sydd hefyd am gadw eu hannibyniaeth. Mae hyn yn golygu, felly, eich bod chi’n gallu mwynhau preifatrwydd eich cartref eich hun gyda’ch drws ffrynt eich hun ond rydych chi hefyd yn gallu elwa ar ofalwyr sydd ar y safle 24 awr y dydd os bydd eu hangen nhw arnoch chi. Mae’n cynnig lle, preifatrwydd ac urddas i chi fynd a dod fel y mynnwch chi.” 

Yn ein Rhaglen Lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bobl gartrefi o safon uchel, ac sy’n gynnes a diogel, i fyw ynddynt.

Mae’r fflatiau clyd hyn yn fodern ac yn cynnwys digon o offer. Mae pob fflat yn cynnwys lolfa, cegin, un neu ddwy ystafell wely ac ystafell ymolchi en-suite. Mae Llys Eleanor yn cynnig llety i rhwng 50 a 75 o bobl, gan gynnwys cyplau. Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys tŷ bwyta, caffi, cyfleusterau trin gwallt, llyfrgell, ystafell ar gyfer golchi dillad, ystafell hobïau, sinema, campfa, heulfan, teras haul a gerddi. 

Dywedodd Tom:

“Rydyn ni’n darparu cinio tri chwrs cytbwys i’n holl denantiaid ac rydyn ni’n cynnig tri dewis gwahanol bob dydd. Mae gennym ni amserlen brysur sy’n cynnwys 60 o weithgareddau'r mis, sy’n cynnwys digwyddiadau fel nosweithiau â cherddoriaeth, gweithgareddau celf a chrefft, paentio ewinedd a  Tai Chi. Does dim angen i unrhyw un fod ar ei ben ei hun pan fydd yn byw yma ond, wrth reswm, gall rhywun fod ar ei ben ei hun os dyna yw ei ddymuniad.”

“Fel rhan o’m swydd i, rwy’n cael cyfarfodydd cyson unigol â’r holl denantiaid yn eu cartrefi eu hunain sy’n rhoi cyfle i ni drafod bywyd, iechyd, unrhyw beth sydd ar eu meddwl a dweud y gwir. Mae’r cyfarfodydd hyn yn bwysig oherwydd mae yna rai pethau na fyddai tenantiaid am eu trafod fel rhan o grŵp. Mae pobl hŷn yn gallu bod yn agored i niwed ac rydyn ni am wneud popeth allwn ni i fynd i’r afael â’r hyn sy’n achosi pryder iddyn nhw.  "

“Yr enw iawn am y trafodaethau hyn yw ‘Adolygiad Gwelliannau’r Cwsmer’, ond fan hyn mae pawb yn eu galw nhw yn ‘Te gyda Tom’. Dw i’n meddwl bod hynny yn rhoi syniad i chi o’r math o le rydyn ni’n ei redeg. Mae’n lleoliad cyfeillgar a chartrefol ac mae tenantiaid wir yn gwerthfawrogi’r gwasanaeth y maen nhw’n ei gael.”