Skip to content

Blaenoriaeth i gleifion mewn amgylchedd o’r radd flaenaf

Dolenni perthnasol

Mae’r bennod hon o’r Rhaglen Lywodraethu yn nodi ein cynllun gweithredu ar gyfer Gofal Iechyd ar gyfer yr 21ain Ganrif. Mae’n disgrifio ein hymrwymiadau ar gyfer gwneud gwahaniaeth i bobl Cymru, ac yn nodi sut y byddwn yn mesur ein llwyddiant.
Law yn Llaw at Iechyd yw’r weledigaeth bum mlynedd ar gyfer y GIG yng Nghymru.
Hiro Tanaka a'i gyd-weithwr yn yr ysbyty yn astudio pelydr-x ar sgrin y cyfrifiadur
Mae Ysbyty Ystrad Fawr yn ysbyty modern ym mhob ystyr y gair.

Cafodd yr adeilad fuddsoddiad o £172 miliwn gan Lywodraeth Cymru i helpu i greu amgylchedd modern a chynaliadwy sy’n cefnogi gofal cleifion o safon uchel.

Mae Hiro Tanaka yn llawfeddyg orthopedig yn yr ysbyty ac ef yw Cyfarwyddwr Clinigol Gwasanaeth Orthopedig Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

Dywedodd Mr Tanaka:

“Mae Ysbyty Ystrad Fawr yn esiampl o’r hyn yr hoffem ei gyflawni mewn gwasanaeth iechyd modern. Mae’r adeilad yn un o’r radd flaenaf a bydd yn sicrhau arfer gorau ar bob lefel o waith yr ysbyty."

“Does dim wardiau yn yr ysbyty hwn. Yn lle hynny, mae ganddo 269 o welyau mewn ystafelloedd en-suite. Mae hyn yn lleihau lledaeniad heintiadau. Mae’r ardal aros ar gyfer cleifion allanol yn rhan o’r ffreutur, gyda chyfrifiadur yn galw cleifion o’u byrddau’n awtomatig. Mae’r ardal glinigol nesaf at y ffreutur ond ar wahân yn gyfan gwbl. Mae hyn yn fwy pleserus i gleifion ond, yn bwysicach fyth, mae’r clinigau bellach yn rhedeg yn llyfn ac ar amser."

“Mae dyluniad yr ysbyty yn wych. Fodd bynnag, y staff yw’r peth gorau am yr ysbyty – nhw sy’n bennaf gyfrifol am y safon uchel."

“Rydym yn canolbwyntio ar y claf bob amser – mae gofal cwsmeriaid wrth galon ein ffordd o weithio. Gydag agoriad yr ysbyty, gwelwyd diwylliant newydd ac mae’r staff yn ymroi i gyflawni’n unol â’r ymagwedd newydd.”

“Rydym am roi dewis i gleifion am eu gofal a’u triniaeth. Ein hethos yw sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld yn y lle cywir, ar yr amser cywir, gan y person cywir. Y nod yw gwneud pethau’n gyfleus i gleifion drwy sicrhau mai dim ond apwyntiadau sy’n glinigol angenrheidiol y mae’n rhaid iddyn nhw eu mynychu. Er enghraifft, mae llawer o ymgynghoriadau dilynol i gleifion allanol bellach yn cael eu gwneud dros y ffôn fel nad oes rhaid i gleifion adael eu cartrefi.”

“Esiampl arall yw’r ffordd yr ydym wedi ail-ddylunio’r broses ‘cyn derbyn’. Hynny yw, unwaith y bydd claf yn penderfynu ei fod am gael llawdriniaeth, mae’n cael yr holl wybodaeth sydd ei angen arno am yr hyn fydd yn digwydd a phryd."

“Yn Ysbyty Ystrad Fawr, rydyn ni’n gweld cleifion sawl wythnos cyn y llawdriniaeth ar gyfer apwyntiad lle gwneir yr holl brofion sydd eu hangen, gan gynnwys prawf anesthetig, profion ‘cyn derbyn’ a phrofion gwaed. Hefyd, trafodir effaith y llawdriniaeth ar fywyd y claf."

“Bydd yr wybodaeth wedi’i theilwra i’r cleifion a bydd cyfle i drafod pethau sy’n bwysig iddyn nhw megis pryd fyddan nhw’n gallu gyrru eto, neu unrhyw bryder am anesthetig neu nodwyddau. Nid un cyfarfod safonol sydd yna, ond cyfarfod arbennig i bob claf ac o ganlyniad i’r broses well mae gan gleifion fwy o wybodaeth ac maent yn hapusach ac mae eu hymweliadau â’r ysbyty ar gyfer y llawdriniaeth yn fwy hwylus."

“Mae’r drefn hon yn rhoi ‘gwerth’ da i’r claf ac i’r ysbyty. Mae ‘gwerth’ yn golygu gwell gofal i gleifion, gwaith hwylusach i staff a chael gwared ar wastraff. Dim arbed arian yw’r unig nod ond, weithiau, yr ateb gorau yw’r un mwyaf cost-effeithiol."

“Cymerwn ein gwasanaethau orthopedig yn Ysbyty Ystrad Fawr – mae gennym belydr-X a delweddu digidol, mae’r cyfleusterau yn y theatrau yn wych ac mae pob ystafell yn giwbicl sengl gyda theledu ac ystafell ymolchi en-suite. Mae’r cyfleusterau o’r radd flaenaf."

“Mae ein hethos triniaeth wedi’i ganolbwyntio ar y cleifion. Golyga hyn fod y cleifion yn cael yr holl wybodaeth er mwyn gallu dewis y driniaeth orau iddyn nhw yn y cyfnod penodol hwnnw o’u bywydau. Gallai hyn olygu osgoi llawdriniaeth, er enghraifft."

“Os daw claf aton ni gydag arthritis yn eu cymalau isaf, er enghraifft, gallem gynnig triniaeth fwy ceidwadol i’r rhai y byddai hynny’n addas ar eu cyfer, sef ein ‘Rhaglen Trin y Cymalau’. Mae tair elfen i’r rhaglen hon: addysg, ymarfer corff a cholli pwysau. Rydym wedi bod yn rhedeg y rhaglen ers chwe mis ac mae’r canlyniadau’n dda. Rydym wedi gweld newidiadau mawr iawn yn lles rhai o’n cleifion."

“Mae rhoi penderfyniadau yn nwylo cleifion yn gallu cael effaith fawr iawn ar ganlyniadau."

“Drwy newid y ffordd yr ydym yn gwneud pethau, gobeithiwn wella’r profiad cyffredinol i gleifion, lleihau amseroedd aros diangen a lleihau’r gost gyffredinol o ddarparu’r gwasanaeth priodol. Fe barhawn ni i wella ein systemau ac fe wnawn hynny gan wrando ar ein cleifion.”

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a ‘Law yn Llaw at Iechyd’ yn nodi’r camau allweddol yr ydym yn eu cymryd i wella canlyniadau ym maes iechyd, gwella mynediad at wasanaethau iechyd a gwella’r profiad i gleifion ledled Cymru. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y Ddolennau Berthnasol ar y dde.