Skip to content

Helpu i feithrin y genhedlaeth nesaf

Dolenni perthnasol

Dechrau’n Deg yw rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar. Mae wedi’i hanelu at deuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed ac sy’n byw mewn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Mae GGD yn rhoi gwybodaeth a chyngor am wasanaethau leol i bobl ifanc 0-25 oed, o ofal plant i weithgareddau gwyliau.
Mae’r Dirprwy Weinidog Plant Gwenda Thomas wedi ymateb i gyhoeddi adroddiad yr arolwg cyntaf o’r rhaglen Dechrau’n Deg.
Arweinydd y Cylch Meithrin a’r lleoliad Dechrau’n Deg yn darllen stori
Kim Aston yw Arweinydd y Cylch Meithrin a’r lleoliad Dechrau’n Deg yn Ysgol y Parchedig Thomas Ellis yng Nghaergybi.

Mae Kim yn helpu, yn cefnogi ac yn datblygu’r plant ac mae wedi bod yn ei swydd yn y Cylch Meithrin ers iddo ddechrau. Mae 32 o blant yn y lleoliad. Mae 20 ohonynt yn blant y rhaglen Dechrau’n Deg sy’n cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau y tu mewn ac yn yr awyr agored.

Dechrau’n Deg yw un o raglenni blynyddoedd cynnar allweddol y Llywodraeth. Mae wedi’i dargedu at blant 0-3 blwydd oed yn rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig, a’i nod yw cyflawni canlyniadau cadarnhaol i blant, gan roi’r dechrau gorau posibl iddynt mewn bywyd.

Mae’r rhaglen yn cynnwys gofal plant rhan-amser safonol am ddim ar gyfer plant 2-3 blwydd oed, gwell gwasanaeth ymwelwyr iechyd, cefnogaeth i rieni a mynediad at gyrsiau datblygu iaith gynnar lle gall rhieni a phlant ddysgu gyda’i gilydd drwy chwarae a chymryd rhan mewn gweithgareddau llawn hwyl.

Meddai Kim:

"Mae pob dydd yn wahanol ac mae pob un ohonom yn mwynhau dod i’r gwaith bob dydd. Rydym yn gweld gwelliant yn y plant ac mae hynny’n werth chweil. Erbyn i ni gyrraedd mis Gorffennaf ac edrych yn ôl ar y flwyddyn, byddwn yn sylweddoli faint sydd wedi’i gyflawni."

“Does dim amheuaeth ei fod yn cael effaith gadarnhaol ar y plant. Maen nhw’n fwy hyderus, ac mae eu hiaith a’u sgiliau cymdeithasol yn well. Oherwydd ein bod ni wedi ein lleoli ar yr un safle â’r ysgol, rydyn ni’n cael adborth ar sut y mae’r plant pan maen nhw'n dechrau’r ysgol. Mae’r athrawon wedi dweud bod y plant yn eistedd ac yn canolbwyntio’n well. Maen nhw mewn sefyllfa well i ddechrau yn yr ysgol."

“Gan ein bod yn gweld y plant o’r adeg pan maen nhw’n ddwy flwydd oed gallwn helpu yn gynnar os oes problem. Yn aml, nid yw problemau yn dod i’r amlwg tan iddyn nhw gyrraedd yr ysgol ond mae’n well mynd i’r afael â phethau yn gynnar, ac mae hynny’n fantais.

“Rydyn ni yma i feithrin y plant a rhoi sylw iddynt. Rydyn ni’n helpu i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol; pethau fel eistedd, aros eu tro a rhannu.

“Mae’n werth chweil gweld y newid mewn rhai plant. Pan maen nhw’n cyrraedd, efallai nad ydynt yn hyderus, ond wrth i amser fynd yn ei flaen rydych chi’n gweld yr hyder hwnnw yn cynyddu ac maen nhw’n rhedeg yma gan eu bod yn hapus i fod yma. Maen nhw’n gallu gwneud llawer o weithgareddau yma; chwarae yn y tywod, mynd ar deithiau natur, dringo ar y ffrâm ddringo.”

Mae llawer o fanteision i rannu’r safle gyda’r ysgol yn ôl Kim.

“Mae’r plant yn adnabod yr athrawon cyn iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol gan eu bod nhw wedi bod i Dechrau’n Deg,” dywedodd. “Mae’r rhieni hefyd yn dod i adnabod yr athrawon. Nid yw dechrau’r ysgol mor frawychus. Mae’r newid o Dechrau’n Deg i’r Cylch Meithrin ac i’r ysgol yn haws.”

Mae’r ysgol hefyd yn falch o’r effaith y mae Dechrau’n Deg yn ei chael. Pennaeth Ysgol Thomas Ellis yw Alison Jones.

“Mae’r plant sydd wedi bod yn Dechrau’n Deg mewn sefyllfa well i ddechrau yn yr ysgol. Mae eu lefelau canolbwyntio yn well, mae eu hiaith a’u sgiliau cymdeithasol wedi gwella. Mae’n golygu y gallan nhw fwrw ati a dechrau ar y cwricwlwm. Mae’r ffaith ei fod yn yr ysgol hefyd yn fantais ac rydyn ni wedi sylwi ar wahaniaeth yn y plant ers i Dechrau’n Deg gychwyn.”

Y llynedd, gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddyblu nifer y plant sy’n elwa o Dechrau’n Deg, drwy gefnogaeth i deuluoedd, ymwelwyr iechyd a lleoedd mewn meithrinfeydd. Mae hyn yn golygu y bydd bron chwarter yr holl blant yng Nghymru o dan bedair blwydd oed yn gallu elwa.